AMDANO NI

Mae’r cydweithrediad aruthrol hwn, sy’n fawr ei glod gan y beirniaid, ac sydd wedi ennill gwobrau di-ri, rhwng dau berfformiwr penigamp - y delynores Gymreig Catrin Finch a’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita - yn darparu arddangosfa syfrdanol o gerddoriaeth o’r radd flaenaf.

 

Gan dynnu’n ddwfn ar eu traddodiadau amrywiol eu hunain a’u trawsffurfio gyda synergedd hynod, mae Catrin a Seckou wedi adeiladu enw da heb ei ail am eu perfformiadau rhyfeddol. Yn dilyn llwyddiant ysgubol eu halbwm cyntaf, bydd eu hail albwm SOAR, y bu aros mawr amdano, yn lansio ym mis Ebrill 2018. Mae’r albwm yn troi o gwmpas adenydd y gwalch, yr aderyn ysglyfaethus godidog a ddychwelwyd i Gymru’n ddiweddar yn dilyn absenoldeb o ganrifoedd, sy’n gwneud ei daith flynyddol o 3,000 milltir o arfordiroedd Gorllewin Affrica i aberoedd Cymru, gan hedfan dros rwystrau o waith Dyn, yn yr un modd a bydd cerddoriaeth a breuddwydion yn gwneud, mewn siwrnai gynhenid ac epig o wytnwch.

 

Yn gyfareddol, yn fesmereiddiol, yn gywrain ac yn etheraidd, dyma i chi gerddoriaeth nodedig a phrofiad byw gwefreiddiol.

Gynhyrchiad Theatr Mwldan.

GWRANDEWCH I 'SOAR' YMA:

 
HALBWM NEWYDD 'SOAR' YN RHYDDHAU EBRILL 27 2018
 

Mae albwm SOAR Catrin Finch a Seckou Keita wedi enill

 

Albwm y Flwyddyn Pleidlais y Beirniaid fRoots 2018!

Y WASG AR CATRIN A SECKOU

“oh my God, incredible… you’re witnessing a state of rapture, it’s entrancing”

 

—  Toby Jones, Actor

10 Albwm Cerddoriaeth Byd Gorau 2018

SONGLINES

Mae Catrin a Seckou wedi eu henwebu ar gyfer y Cydweithrediad Traws-ddiwylliannol Gorau yng Ngwobrau Cylchgrawn Songlines 2014

WOBR WERIN BBC RADIO 2 

Cafodd Catrin a Seckou eu henwebu am ddwy Wobr Werin BBC Radio 2 – Deuawd Gorau, a Thrac Traddodiadol Gorau ar gyfer ‘Les Bras de Mer’

Dewisodd David Hutcheon o cylchgrawn MOJO Clychau Diobon yn un o'i 10 Albwm Cerddoriaeth Byd Gorau 2014

Dewisodd Robin Deneslow o The Guardian Clychau Dibon yn un o’i 5 Albwm Cerddoriaeth Byd Gorau 2013

 

Dewisodd David Hutcheon o cylchgrawn MOJO Clychau Diobon yn un o'i 10 Albwm Cerddoriaeth Byd Gorau 2018

Top Ten Album of 2013

  • Facebook - White Circle
  • Twitter - White Circle

2017 © COPYRIGHT CATRIN FINCH & SECKOU KEITA  |    Polisi Preifatrwydd   |   Privacy Policy